Mae’r enaid yn
un o’r cysyniadau hynaf, ac fe’i gwelir ar ryw ffurf ym mhob diwylliant. Beth
bynnag yw’r peth hwn sy’n animeiddio’n cyrff gyda dychymyg, emosiwn a
deallusrwydd, mae wedi’n cyfareddu erioed. Mae’n debyg i homo sapiens ryfeddu ar
ei hunan-ymwybyddiaeth, ac o ganlyniad, geisio dirnad yr hyn oedd yn ei
symbylu. Goroesodd yr uniaethiad hwn – o ystyried yr ymwybod yn un â’r enaid –
yng ngweithiau’r hen Roegwyr megis Aristotles a’i debyg.
Cyn i Gristnogion roi diffiniad terfynol ar yr enaid Ewropeaidd, sef
ei ddehongli yn ôl ideoleg moesol eu crefydd, roedd deallusion y byd clasurol
wedi ystyried ei briodoleddau ac wedi ceisio rhoi trefn arnynt. Er enghraifft,
roedd digon o drafod ar sut roedd enaid dyn mewn stad uwch na’r anifeiliaid, ac
eneidiau anifeiliaid mewn stad uwch na’r planhigion. Roedd dynoliaeth ar y
blaen, felly, yn nhermau’r enaid gan ein bod ni’n meddu ar ymwybyddiaeth fwy
soffistigedig. Gwelir yma olion o’r hen drafodaeth ar yr enaid: cyn iddi droi’n
fater o fywyd tragwyddol a barn Duw ar bechaduriaid ac yn y blaen, roedd yr
enaid yn syml iawn yn gyfystyr â’r ymwybod.
Ac yn union fel yr enaid, mae’r ymwybod yn parhau i fod yn bwnc
dadleuol. Hyd heddiw, nid oes neb wedi llwyddo i esbonio ffenomen ymwybyddiaeth,
heb sôn am ddarganfod ei leoliad, neu ei ail-greu yn y labordy. Yn sicr, mae
newidiadau corfforol neu gemegol yn yr ymennydd yn cael effaith ar ei ansawdd
a’i natur, ond nid yw’r peth cyfrwys hwn a elwir yr ‘ymwybod’ erioed wedi ei
ddal o dan y meicrosgop, a dim ond olion magnetig ei weithgaredd a welir ar
graff y peiriant EEG. Mae’r enaid – ein hymwybyddiaeth – yn parhau i fod yn
beth tywyll, dirgel.
Heb unrhyw dystiolaeth gadarn y naill ffordd neu’r llall, mae’n amlwg
mai mater o ffydd yw credu ym modolaeth neu ddiffyg bodolaeth yr enaid. Serch
hynny – yn ôl ein hanian – mae’n anochel ein bod yn ysu i ymbalfalu yn y
tywyllwch.
Yn y Gorllewin ceir un o’r myfyrdodau cynharaf ar yr enaid yng
ngeiriau’r Groegwr Heraclitus (c. 535 – c. 475 CC), neu Heraclitus Dywyll fel
y’i gelwid gan ei olynwyr, a hynny oherwydd ei dueddiad i wneud datganiadau
amwys. Efallai na ddylen ni obeithio iddo daflu unrhyw olau ar y mater felly.
Serch hynny, er bod hanes wedi dangos hyd ebargofiant mai amhosibl yw bathu
disgrifiad boddhaol o’r enaid (heb sôn am yr ymwybod), ni fyddwn lawer gwaeth o
oedi ychydig ar yr hyn a ddywedodd:
Nid
oes modd darganfod terfynau’r enaid – hyd yn oed petaen ni’n
crwydro pob llwybr i wneud hynny – cymaint yw dyfnder ei ystyr.[1]
Dyma enghraifft
gynnar o’n tueddiad i drafod haniaethau mewn termau diriaethol. Mae Heraclitus
yn disgrifio’r enaid mewn termau gofodol – hynny yw, bod ffurf iddo, er mai
amhosibl yw ei ganfod. Awgryma mai ‘lleoliad’ arbennig yw’r enaid, rhyw wlad
ryfeddol, ddiddiwedd ac – yn wahanol i’r cysyniad Cristnogol – awgryma
Heraclitus ein bod ni oddi mewn i’r
enaid, yn crwydro ynddo hyd dragwyddoldeb, yn hytrach na’i fod yn rhywbeth sydd
ynom ni.
A dyma ni’n mynd i’r afael â niwloedd Heraclitus: ym mhle mae
terfynau’n hymwybyddiaeth? Hyd y gwn i, nid oes modd i’r unigolyn gamu tu hwnt
i’w synhwyrau ei hun. Yn wir, y tu hwnt i derfynau’r hunan, ni ellir profi dim.
Roedd rhaid i’r Bwda, hyd yn oed, ddychwelyd o’i unoliaeth ddilychwin er mwyn
parhau fel unigolyn o gig a gwaed. Ond oddi fewn i’w derfynau naturiol, gall yr
hunan brofi unrhyw beth. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd. Dyma sydd wrth wraidd
datganiad Heraclitus.
Er bod ein hymwybyddiaeth gan amlaf yn edrych allan ar y byd, gall
hefyd edrych i mewn; fel y duw Iau, edrycha’r ddwy ffordd. Fel y
gwerthfawrogodd Freud a Jung, y gwir yw y gellir teithio y tu mewn i’r hunan
cymaint ag y gellir teithio y tu allan iddo, a bod y llwybrau mewnol hyn yn ein
harwain ar drywyddau mythig. Darganfyddiad mawr Freud oedd nid fod yr isymwybod
yn cynnwys mythau, ond fod yr isymwybod yn fythig o ran ei natur. Wrth gwrs, yn
y ddadl sgitsoffrenig sydd wedi ysgwyd seicoleg gyfoes (ai gwyddonwyr y meddwl
neu artistiaid yr enaid ydym?), mae’r gwirionedd hynafol hwn wedi mynd ar goll.
Os dilynwn drywydd Freud gwelwn fod yr enaid, ar ei lefel dyfnaf, yn
archwilio’i hun drwy naratif, ac fel cŵn yn breuddwydio am gwningod mae cynnwrf
ein dramâu mewnol yn gallu ysgwyd trwy’n cyrff. Mae’r hyn sy’n digwydd y tu
mewn i ni yn goferu allan i’r byd o’n cwmpas; a – gan amlaf – nid yw hynny o
wirfodd. A dyna i ni barhawd ein hymwybyddiaeth yn ymestyn o’r tu mewn i’r tu
allan ac yn ôl, a ninnau yn y canol yn ceisio cenhadu rhwng y ddwy deyrnas
ddiderfyn yma.
Difyr yw sylwi ar ail ran datganiad Heraclitus, sef bod yr enaid yn
cynnwys dyfnder difesur o ystyr. Fel y crybwyllir uchod, mae’r isymwybod yn
fythig o ran ei natur. Gallwn, felly, edrych ar enghreifftiau o fytholeg os
ydym am ddirnad y math o ystyron sy’n gynhenid i’r enaid. Os yw Freud a Jung yn
gywir, byddai unrhyw fath o fytholeg frodorol yn enghreifftio’r math o
ieithwedd symbolaidd sy’n ffurfio yn nyfnderoedd yr enaid.
Ond er bod modd dehongli ychydig ar ddeinamig mytholegol yr ymwybod,
nid oes modd diffinio’i derfynau. Yr unig derfyn amlwg iddo yw marwolaeth, a
bryd hynny mae fel petai’n diflannu heb adael unrhyw olion ar ôl i’w archwilio.
Mae’n baradocs llwyr fod yr hyn sy’n esgor ar ein hymwybyddiaeth yn hollol
ddieithr a thywyll i ni. Efallai mai’r anhawster mwyaf yw nad yw’r ymwybod /
enaid yn ffenomen statig. Mae’n trawsffurfio pob eiliad er mwyn canfod (a
chreu?) profiadau newydd. Fel y sylwodd Heraclitus: ‘Nid oes modd camu i’r un
afon ddwywaith.’ Nid oes modd tystio i wir natur yr enaid, gan ei fod wedi
llifo heibio i ni ac wedi newid ei ffurf cyn i ni allu dal gafael ynddo. Rhaid
bod yn fodlon felly, ar dderbyn mai tywyll ydyw, neu dreulio oes, os nad
oesoedd, yn ceisio’i lonyddu.
No comments:
Post a Comment