Er pob ymdrech i ddilyn llwybrau diogel, yn aml iawn coda rhyw
rwystr neu’i gilydd i’n baglu. Yr her, wrth gwrs, yw ceisio’i orchfygu a
dyfalbarhau gyda’r daith. Dyna, yn ei hanfod, yw hanes pob arwr chwedlonol
erioed, ac ni wn am yr un a hawliodd y teitl na wynebodd rhyw drallod neu’i
gilydd: ar y daith o fan hyn i fan acw, roedd rhyw anghenfil yn sicr o godi ei
ben hyll o’r eigion a harthu ar y gŵr dewr. A gŵr ydoedd yn ddieithriad yn yr hen chwedlau i gyd; y dynion (druan ohonyn nhw) oedd yn
wynebu’r gorchwyl amhosibl, yn ei orchfygu, ac yn cael eu dyrchafu drachefn i
gyflwr Yr Arwr. Wedi cyflawni’r holl orchestion, roedd eu henwogrwydd yn
ddiogel a’u hapotheosis yn gyflawn.
Yn ystod y daith, profai rhai arwyr hunllefau hyllaf y dychymyg. Odysseus
er enghraifft, efallai’r arwr enwocaf ohonynt i gyd: taflodd Homer y cyfan ato,
a daeth drwy bopeth gyda dygnwch a chyfrwystra. Wynebodd y Seiclops, y
Laestrygones cawraidd â’u bryd ar borthi cig dynion, a’r Scylla apocalyptaidd a
gododd ei chwe phen o’r moroedd mawr i geisio llyncu’r capten a’i forwyr ffôl.
Ond er bygythiad marwol yr erchyllterau hyn, y bygythiadau i enaid dyn – i’w
bwyll a’i reswm – oedd her fwyaf Odysseus. Ei forwyr a ddioddefodd rhai o
ganlyniadau gwaethaf y baglau seicolegol hyn: diogi twp y blodau lotws a
gloddesta chwantus, anifeilaidd y wrach Circe. Ond wynebodd Odysseus yr her
seicolegol beryglaf ar ei ben ei hun.
Ar ôl gadael ynys Circe am y tro olaf, roedd Odysseus yn gwybod
fod rhaid iddo hwylio heibio i ynys y Siren os oedd am gyrraedd adref. Adar
hudolus gyda phennau merched oedd y Siren – tair ohonynt – a ddenai morwyr i’w
marwolaeth drwy gyfaredd eu cân. Yn gaeth i’w caneuon swynol, byddai morwyr yn
marw o newyn ar eu hynys. Paratodd Odysseus i wynebu’r Siren drwy wthio cwyr i
glustiau ei ddynion fel na allant glywed y canu cyfareddol. Ond roedd Odysseus
ei hun yn chwilfrydig i glywed y rhyfeddod angheuol. Wrth iddynt ddynesu,
gorchmynnodd i’w ddynion ei rwymo’n dyn i hwylbren y llong, fel na allai swyn y
Siren beri iddo neidio o’i long a nofio am eu hynys. Wedi paratoi felly,
rhwyfodd y dynion yn ddiogel yn eu blaenau heibio’r ynys heb glywed dim drwy’r
cwyr yn eu clustiau. Ond ynghlwm wrth yr hwylbren, clywodd Odysseus pob gair:
Dyrred
Odysseus, ti a anrhydeddai enw dy deulu, gwranda ar ein cân. Ni theithia neb
heibio i ni heb gymryd ysbaid fach i glywed cyfaredd felys ein lleisiau – ac fe
â’r neb a glyw ein cân yn ei flaen yn ddoethach, gan y gallem adrodd i ti pob
dim a fu ac a fydd drwy’r byd i gyd .
Tu hwnt i swyn alawon y Siren, deallodd Odysseus mai’r hyn a oedd yn
farwol o ddeniadol yn eu cynnig oedd y grym anorchfygol hwnnw a ddaw i ddyn os
fyddai byth yn cael gwybod ’pob dim a fu ac a fydd drwy’r
byd i gyd.’ Petai rhywun yn meddu ar y fath wybodaeth, byddai’n feistr ar bawb
a phopeth. Dyma demtasiwn pŵer diderfyn, y grym terfynol hwnnw fyddai’n gosod
dyn uwch ben pob dyn arall. Nid oes syndod i gynnig o’r fath beri i ddynion
beryglu eu bywydau er ei fwyn. Rhybuddia Homer mai caethwasiaeth llwyr i rith
celwyddog yw’r hyn a ddaw i ran unrhyw un â’i fryd ar ennill grym o’r fath. Nid
oes lle i uchelgais cyffelyb mewn cymdeithas wirioneddol wâr. A gwae’r neb a
greda’n wahanol, gan mai tranc yw canlyniad egomania o’r fath, a dylid rhwymo
unrhyw gapten i’r hwylbren petai’n coleddu’r fath awydd.
Mae’n amlwg mai moeswers sydd yma. Yn wir, gellir ystyried yr Odyssey cyfan fel moeswers a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer
uchelwriaeth milwrol Groeg. Ar ddechrau’r chwedl, ar ei ffordd adref o ryfel
Troea, penderfyna Odysseus oresgyn ynys, lladd y dynion a dwyn eu gwragedd a’u
heiddo. Yn amlwg, nid yw’n well dyn na môr-leidr ar y dechrau. Ei daith, felly, yw un i drechu pob
barbariaeth, mewnol ac allanol, cyn gallu ail-feddiannu’r ystad ddelfrydol
honno o warineb. Nid yw Odysseus, felly, yn teithio yn ôl i ddim: mae’r daith allanol yn cyfateb i daith fewnol yr arwr yn ei
ymdrech i adfer ei anrhydedd a’i enaid, i godi ei hun o farbariaeth cyntefig i
gyflwr y dyn gwâr. Yn ôl yr ystrydeb lenyddol, mae disgwyl iddo newid a thyfu
yn sgil ei brofiadau – goresgyn ei wendidau ei hun yw newid mawr yr arwr mwyaf.
Wedi degawd o daith, yn y pen draw llwydda Odysseus i ddychwelyd yn ddiogel at
ei wraig, ei dŷ a’i frenhiniaeth – symbolau canolog ei wareiddiad.
Mae moeswers debyg iawn i’w gael yn un o deithiau cyntaf ein
chwedlau brodorol ni hefyd, sef taith Pwyll i Annwfn: â’i fryd ar hela, gwêl
Pwyll ei gŵn yng nghoed Glyn Cych. Yn ystod yr helfa, gwêl gŵn rhyw heliwr
arall yn dal hydd gwyn ysblennydd. Gyda thraha uchelwr ifanc, penderfyna hel y
cŵn estron oddi ar yr ysglyfaeth a gadael i’w gŵn ei hun wledda arno. Pan ddaw
perchennog y cŵn estron at Pwyll, mynna fod y pendefig ifanc yn gwneud iawn am
ei anghwrteisi, ac fel gŵr sy’n byw yn ôl deddf anrhydedd, disgynna Pwyll ar ei
fai a chytuno gwneud felly. Y gwrda arall hwnnw yw Arawn wrth gwrs, ac i wneud
iawn am ei ladrata anwaraidd mae Pwyll yn cytuno i gyflawni gorchwyl anodd a
pheryglus ar ei ran, sef ymladd â Hafgan, prif elyn Arawn. Er mwyn cyflawni
hynny rhaid iddo deithio yn rhith Arawn i Annwfn a chymryd ei le fel brenin ar
y deyrnas honno, a dyna gychwyn taith ryfeddol Pwyll.
Cyn cyflawni’r gorchwyl hollbwysig o ladd Hafgan gydag un
trywaniad, rhaid i Pwyll dreulio can noswaith yn rhannu gwely gyda gwraig
Arawn, a hithau’n credu mai Pwyll yw Arawn, ei gŵr. Wrth gwrs, hi yw’r ddynes
harddaf yn y byd. Mae’n ddisgrifiad ystrydebol erbyn hyn, ond beth petai rhywun
wirioneddol yn gorfod rhannu gwely gyda’r cymar perffeithiaf erioed, a
hwythau’n credu mai chi oedd eu priod? A fyddech chi’n gallu cadw’ch dwylo oddi
arni neu oddi arno am gant o nosweithiau, a hwythau’n disgwyl ac yn barod i chi
wneud i’r gwrthwyneb? Byddai rhywun yn sicr o brofi trachwant anhygoel; digon i
ferwi’ch gwaed. Ond yn ôl yr hen ddeddf foesol, nid yw Pwyll yn meiddio cyffwrdd
bys yng ngwraig Arawn, gan mai bradychiad eithafol fyddai hynny. Truan.
Ond y
tu hwnt i’r moesoli, mae rywbeth dyfnach yn digwydd i Pwyll: daw i brofi’n
uniongyrchol ei drachwant ei hun, ac ymwrthod ag ef. Fel cosb am gymryd yr hyn
nad oedd yn eiddo iddynt, bu rhaid i Odysseus a Pwyll ill dau wrthsefyll y
temtasiwn eithaf, y cyntaf wedi ei rwymo’n dynn wrth hwylbren ei long a’r llall
wedi ei rwymo’n dynn i ddeddf anrhydedd. Yng nghyd-destun chwedl Pwyll mae’r
motiff ychydig cyfrwysach ond yr un canlyniad sydd i’w ymddygiad anwaraidd ef
ag y sydd i Odysseus. Wrth ystyried cyfnod Pwyll yn Annwfn, gwelir bod gofyn
iddo ymateb yn gymedrol i bob sefyllfa – rhaid iddo ymwrthod â’i chwant yng
ngwely Arawn a’i wraig, ac ymwrthod â dicter barbaraidd pan wyneba Hafgan. Drwy
roi Pwyll mewn sefyllfa lle mae rhaid iddo ymatal rhag gweithredu’n ddifeddwl,
mae Arawn yn ei sbarduno i ymddwyn gyda phwyll. Nid oes rhyfedd mai dyna ei
enw, gan mai dyna y mae’n arwyddocáu yn y chwedl. Rhaid cydnabod bod y chwedl
yn cynnwys gweledigaeth soffistigedig o reddfau dyn. Mae’n awgrymu mai‘r reddf
rywiol sydd wrth wraidd trachwantau eraill yr hunan, megis chwant am eiddo un
arall, a blood
lust gwyllt y rhyfelwr amhwyllog. Mae’n ganfyddiad
Freudaidd os oedd yna un erioed ac yn awgrymu bod dealltwriaeth o seicoleg bron
i fil o flynyddoedd cyn ffurfioli’r maes.
Mewn cannoedd
o hen straeon a chwedlau, awgrymir fod angen i ddyn ymwrthod â’i reddfau ‘is’
er mwyn adfer ei warineb, ac yn aml iawn cynrychiolir y broses honno – o newid
o un cyflwr i’r llall – yn symbol y daith. O ystyried mai dosbarthiadau uwch cymdeithas oedd cynulleidfaoedd
tebyg y storïau hyn, gellir gweld pam mai uchelwyr yw eu prif gymeriadau. Mae’n
debyg fod y ddelfryd arwrol wedi bod yn gyfystyr â’r ddelfryd uchelwrol ers
miloedd o flynyddoedd. Dros y canrifoedd mae arwriaeth uchelwrol wedi codi ei
phen mewn sawl testun – addasiadau Chrétien de Troyes o’r rhamantau Arthuraidd
a chlasur hirwyntog Spencer, The Fearie Queen, er enghraifft. Poblogrwydd
arwriaeth uchelwrol ledled Ewrop a sbardunodd Cervantes i’w pharodïo yn Don Quixote. Mewn testunau hanesyddol
sy’n cynnwys alegori neu foeswers arwrol o unrhyw fath, gan amlaf uchelwr sy’n
cael ei addysgu yn ôl y ddelfryd arbennig. Hyd yn oed heddiw fe’i gwelir yn
codi ei ben euraid mewn ambell i blockbuster yn y sinema.
Yn ddiweddar iawn, gwelais ddwy ffilm lle roedd ffigyrau uchelwrol yn mynegi
egwyddorion delfrydol; y cyntaf oedd The Seventh Legion
(gwarthus o ffilm) a’r llall oedd Thor (ffantastig os
ydach chi fel fi yn hoff o’r math yna o rwtsh).
Yn yr Oesoedd Canol, teg fyddai casglu fod angen ffigyrau o’r fath
i addysgu rhyfelwyr ifanc tanllyd, gan geisio eu hargyhoeddi o werth
egwyddorion arwrol megis anrhydedd, dewrder, gwyleidd-dra a gonestrwydd. Mae’n
debyg bod yr hen gyfarwyddiaid (ac ambell i fardd) wedi gweld yr angen i roi
persbectif gwahanol i rai o’r rhyfelwyr hyn, rhywbeth tu hwnt i brofiadau
erchyll lladdfeydd y gad. Ond beth am heddiw? Diolch i drefn ryddfrydol ein
diwylliannau cyfoes, nid oes raid i’r mwyafrif ohonom fyw o dan fawd
hierarchaeth filwrol rhy orthrymus (fedra i ddim cofio’r tro diwethaf i rywun
anelu gwn ata i yn y wlad hon). Serch hynny, mae’r ddwy ffilm uchod (a nifer
tebyg iddynt) wedi bod yn gymharol lwyddiannus ymysg y cyfryngau torfol
gorllewinol. Efallai bod y ffilmiau hyn yn ymgais i ddenu dynion ifanc y
Gorllewin gwyn i ystyried egwyddorion arwrol sydd ar y cyfan yn rhai
canmoladwy. Ond tybiaf mai diddanwch yw prif amcan y ffilmiau hyn, ac nid
darparu fframwaith moesol i’w cynulleidfaoedd. Ond pa ots? Mae’n amlwg ein bod
ni wedi esblygu tu hwnt i ffolineb rhyfel, ac yn genhedlaeth ddigon aeddfed a
gwâr i sicrhau cyfiawnder a thegwch i bawb yn y byd, felly beth a wnelai’r hen
straeon plant hyn â ni?
Gan mai ymdriniaeth weddol arwynebol o’r ddelfryd arwrol a
gyflwynir i’r gynulleidfa yn y ffilmiau hyn, ar y cyfan maent yn gadael rhywun
braidd yn anniddig, yn enwedig wrth ystyried y rhyfeloedd mawr lle manteisiwyd
ar yr un ddelfryd arwrol gynhenid i ddenu gwŷr ifanc ein pentrefi a’n dinasoedd
i laddfeydd diystyr megis y Somme. Mae eironi trist iawn yn y ffaith mai ‘Yr
Arwr’ oedd testun y gadair y flwyddyn enillodd Hedd Wyn, ag yntau wedi ei ladd
gyda 31,000 o ddynion eraill wythnos ynghynt yn Passchendaele. Wrth ystyried y
math o ddelfrydau sydd mor boblogaidd ymysg milwyr ifanc yr Unol Daleithiau
(gweler y rhaglen ddogfen An American Soldier er enghraifft), mae’n amlwg
fod yr un delfrydau yn parhau i fod yr un mor ddefnyddiol. Nid anodd yw gweld
sut y targedir ffilmiau fel The Seventh Legion a Thor at yr un garfan, sef dynion
ifanc sy'n ystyried y bywyd milwrol fel rhywbeth deniadol. Ar rhyw lefel neu’i
gilydd gallai hynny fod yn nifer fawr iawn o ddynion o bob oedran. Bu bron iawn
i pob un ohonom chwarae sowldiwrs tra’n blant.
Mae’n anhygoel i feddwl bod gafael y daith arwrol mor gryf heddiw
ag ydoedd erioed, gyda ffilmiau fel The Seventh Legion a Thor yn
ceisio cyfleu delfryd sydd wedi bod mewn cylchrediad ers miloedd o flynyddoedd,
ac erbyn hyn yn rhan o’n mêr diwylliannol. Y piti mawr yw nad yw’r ffilmiau hyn
yn gwneud llawer mwy na chwarae gyda’r ddelfryd arwrol heb ei archwilio i’r un
dyfnderoedd ag y mae rhai o’n hen destunau llenyddol, sydd, o’m rhan i o leiaf,
yr un mor ddiddan. Wrth gymharu ymdriniaeth y blockbusters gyda’r ffordd mae’r Gododdin, er enghraifft, yn cydbwyso’r ddelfryd arwrol gyda delweddaeth
erchyll maes y gad, mae’n anochel y bydd rhywun yn teimlo nad yw cyfarwyddwyr
rhai o’r ffilmiau hyn wedi llawn wireddu potensial y ddelfryd hynafol hon. Ond
eto, mae’n debyg nad dyna oedd eu hamcan.
Mae’r ddelfryd arwrol wedi goroesi milenia, ond mae fel petai’r gallu
i wneud defnydd call ohoni wedi mynd yn angof. Wela i ddim cadarnhaol mewn
hyrwyddo un agwedd gul ar ddelfryd sydd â chymaint mwy i gynnig, ond cul iawn
yw’r arwyr newydd hyn sy’n cael eu taflunio ar hyd ac ar led y byd, yn enwedig
wedi eu cymharu â’r defnydd soffistigedig a wnaed ohoni gan ein hynafiaid. Wrth
ystyried taith hir y ddelfryd ar hyd yr oesoedd, oni ddylai fod yr arwr wedi
aeddfedu yn sgil ei brofiadau? Erbyn heddiw mae fel petai wedi disgyn yn ôl i’w
ffolineb anwaraidd, ac wedi anghofio pob dim am wersi’r daith. Oes angen iddo gychwyn
ar ei siwrnai unwaith eto?
No comments:
Post a Comment