Yn sgil y toriadau i
freindaliadau cerddoriaeth Gymraeg, mae nifer ohonom wedi dod i werthfawrogi
anawsterau presennol y sin yng Nghymru. Fel i mi grybwyll mewn erthygl
ddiweddar yn Y Selar (‘Sgriwio Cerddorion Cymraeg’), credaf y gwnelai’r broblem
â’r berthynas rhwng cerddorion a’r cyfryngau.
Y BBC ac S4C yw darlledwyr
pwysicaf cerddoriaeth Gymraeg, a’r BBC y pwysicaf oll. Ond mae’r BBC yn cyfyngu
ei defnydd o gerddoriaeth Gymraeg i Radio Cymru yn unig - nid yw’n fodlon chwarae cerddoriaeth rhy ‘estron’ ar weddill ei gorsafoedd. Yn hyn o beth mae ffiniau ieithyddol mewnol y Deyrnas Unedig (ar ein prif gyfrwng torfol, o leiaf) yn cael eu cynnal a’u cadw gan y BBC, a hynny i’r fath raddau
fel nad yw’r Gymraeg yn bodoli i’r
rhan fwyaf o ddinasyddion yr ynys hon. Oni bai am Glyn Wise, ni fyddai’r rhan
fwyaf ohonynt erioed wedi ei chlywed.
Serch hynny, mae
cerddorion pop Cymraeg yn tueddu i gyfrif eu hunain yn rhan o’r sin
Eingl-Americanaidd ehangach sy'n ganlyniad uniongyrchol i bolisi ieithyddol y BBC, er ei bod hi’n amlwg na chawn ni ymuno â’r sin
hwnnw yn ein hiaith ni’n hunain. O ganlyniad, ers llwyddiannau’r Furies, Catatonia a'r Myncis, mae wwedi bod yn uchelgais naturiol ymysg ein bandiau pop i ryddhau
deunydd iaith Saesneg; a phwy all feio neb am geisio ennill incwm gwell a chlod mwy am eu
gwaith?
O ganlyniad, rydym yn
tueddu i fesur ein llwyddiannau ni yn ôl “safonau” y sin Saesneg. Tydi hi ddim
yn bosibl i fand “wneud hi” yng Nghymru. Rhaid mynd i Loegr i wneud hynny. Ateg
gref i’r rhagdybiaeth hwnnw yw’r ffaith fod C2, prif gyfrwng pop Cymru, yn
chwarae traciau Cymraeg ochr yn ochr â hits diweddar y siartiau Saesneg. Ddim bod hynny’n beth drwg
o anghenraid – mae o leiaf esgus fod y ddau sin yn gydradd yn well na dim byd, ac
mae awgrymu fod artistiaid Cymraeg yn rhan o sin ehangach yr Iw Ce yn beth
cadarnhaol; petai’r BBC ond yn gwireddu’r awgrym ac yn trin cerddoriaeth
Gymraeg yn gydradd tu hwnt i Radio Cymru.
Wrth gwrs, er caredigrwydd
y BBC yn portreadu cerddorion Cymraeg yn sefyll ochr yn ochr â Cold Play a
Madonna, mae gwahaniaethau mawr rhwng y ddau sin - gwahaniaethau sydd efallai’n
cael eu hanghofio gan gerddorion Cymraeg yn eu brys i “wneud hi” dros y
ffin. Yn hierarchaeth y sin
Eingl-Americanaidd y cyfryngau sydd ar y brig. Y nhw sy’n dewis ac yn dethol yr
artistiaid sydd fwyaf tebygol o wella eu ffigyrau gwrando a gwylio. Yn ffodus
iddyn nhw, mae cerddoriaeth bop iaith Saesneg yn beth hawdd iawn cael gafael
arni. Yn wir, mae miloedd o fandiau iaith Saesneg yn gorfod cystadlu’n galed
iawn â’i gilydd i gael unrhyw sylw gan y cyfryngau, ac o ganlyniad y cyfryngau
sy’n rhedeg y sioe.
Nawr, oherwydd ffocws
cerddorion Cymraeg ar y diwydiant Saesneg, mae tueddiad naturiol i ni gredu fod
y diwydiant yng Nghymru yn dilyn yr un patrwm. Os mai’r cyfryngau sy’n rheoli’r
sin Eingl-Americanaidd, mae’n dilyn mai dyna sy’n digwydd yma yng Nghymru. Ond y
gwir yw, mae’r sefyllfa fan hyn yn hollol wahanol. Mae’r rhan fwyaf o’r grym yn
nwylo’r cerddorion – ond i ni sylweddoli hynny. Wrth gwrs, mae’r cyfryngau
Cymraeg yn tueddu i ymddwyn fel y cyfryngau Saesneg – credant mai y nhw sy’n
gosod yr agenda. Ond yn wahanol i Loegr, lle mae digon o ddewis mewn
cerddoriaeth newydd, yng Nghymru does dim digon. Mae cerddoriaeth iaith Gymraeg
o’i chymharu â cherddoriaeth Saesneg yn eithriadol o brin.
Mae’r rheiny ohonom sy’n
gweithio yng Nghymru yn gwybod pa mor newynys mae’r cyfryngau’n gallu bod am
ddeunydd newydd i’w rhaglenni. Gall recordiad newydd gan fand, cyn belled fod
safon y cynhyrchu ddim rhy wael, ffindio’i ffordd i’r radio mewn byr o dro. Nid
felly yn Lloegr. Mae’r angen am gerddoriaeth Gymraeg yn y BBC llawer, llawer
mwy na’r angen am gerddoriaeth Saesneg. Fel arfer, pan mae gofyn
mawr am rhywbeth prin, mae ei bris yn adlewyrchu hynny. Ond hyd yn hyn, mae’r
corff sy’n gyfrifol am freindaliadau cerddoriaeth, sef y PRS, wedi methu’n lân
â sylweddoli gwir werth masnachol cerddoriaeth Gymraeg.
Er mai dim ond carfan
fechan iawn o gerddorion Cymraeg sydd â’r gallu i ddarparu’r gerddoriaeth honno
sydd mor bwysig i wasanaeth Radio Cymru, nid yw’r BBC, hyd yn hyn, wedi mynnu
fod PRS yn talu graddfeydd gwell iddynt. Ar Radio 1 mae’r raddfa tua £15 y
funud; cyn hir bydd graddfa Radio Cymru lawr i tua 50c y funud. Nid yw hynny’n unig yn
diraddio Radio Cymru fel ein hunig orsaf cenedlaethol, ond mae’n gwneud hi’n
anoddach i gerddorion dalu’r costau uchel sy’n gystlltiedig â rhyddhau
cerddoriaeth. Petai cerddorion Cymru ond yn sylweddoli’r grym sydd yn eu dwylo
ac yn dod at ei gilydd i gynrychioli eu hunain, byddai’n bosibl hawlio telerau
llawer, llawer gwell ar gyfer eu cerddoriaeth. Dim ond wedyn y gallwn ni ennill
ychydig o hunan-barch yn ôl i’r sin cerddoriaeth Gymraeg.
No comments:
Post a Comment