Mae
cyd-destun anthropolegol awdlau’r Gogynfeirdd wedi fy niddori erioed. Yn ystod
fy amser yn astudio yn adran Gymraeg Prifysgol Bangor, y cwestiwn pennaf bûm yn
gofyn i mi fy hun oedd pam yn union y cyfansoddwyd caniadau mor arbenigol a
chywrain eu ffurf, mor loyw a grymus eu delweddaeth? Fel diddanwch yn unig? Neu
oes rhyw fwriad dyfnach, mwy ystyriol, tu ôl i’r caniadau hyn?
Teg fyddai casglu mai’r beirdd eu hunain oedd yn datgan
eu hawdlau, o leiaf ar yr achlysur cyntaf. Mae’n hawdd gweld bywyd seremonïol y
llys yn fyw yn y testunau hyn, a
gellir eu clywed fel defodau cyhoeddus lle dethlir nid yn unig y rheiny sy’n
bresennol, y noddwr a’i osgordd, ond hefyd hen ddelfrydiaeth elitaidd y gymuned
uchelwrol. Fel y noda D. Myrddin Lloyd am Cynddelw Brydydd Mawr, roedd haniaethau’n fwy real i’r Gogynfardd nag unrhyw
noddwr o gig a gwaed; yn y farddoniaeth hon teyrnasa’r arwr delfrydol dros y
dyn ei hun.
Ond nid y noddwr yn unig a gaiff ei
ddelfrydu, bu’r bardd llys yntau hefyd yn hoff iawn o bortreadu ei hun ar lun
Myrddin neu Taliesin - fel bardd ddewin hollwybodus yn meddu ar alluoedd cyfrin
a daroganol. Dramateiddia’r Gogynfardd ei hunan, gan gyflwyno delwedd gyhoeddus
ohono’i hun a oedd yn llawn cyfeiriadau chwedlonol. Yn yr ystyr hwn, mae modd
dehongli’r awdlau mawl a marwnad fel math o ddrama seremonïol, lle cynhelir
perthynas arbennig rhwng dau brif gymeriad, y bardd a’i noddwr – ffigyrau
chwedlonol sy’n bodoli mewn rhithfyd arwrol rhywle tu hwnt i fywyd beunyddiol y
llys.
Ond pam? Yn ystod gaeaf 2009, treuliais 3 mis
yn Llyfrgell y Gyngres, Washington DC, yn gofyn yr union gwestiwn. Roeddwn
ddigon ffodus i dderbyn cymrodoriaeth ymchwil yn y Llyfrgell, yn benodol er
mwyn edrych ar fframweithiau anthropolegol a fyddai’n gallu cynnig atebion i’r
cwestiwn hwn. Yno, deuthum ar draws waith yr anthropolegydd Victor Turner, a’i
ddamcaniaethau strwythurol ar naratifau cymunedol. Yn fras iawn, creda fod
unrhyw fath o ddefodaeth gyhoeddus yn ymgais ar ran cymuned i ymateb i ryw fath
o wrthdaro neu anghytgord mewnol.
Yr enghraifft egluraf o’i ddamcaniaethau i mi
ddarganfod oedd cofnod
ethnograffig o Ddrama’r Angenfilod gan J.W. Kealiinohomoku. Yn fras, mae’r
ddrama’n hen draddodiad ymysg yr Hopi, un o lwythi brodorol De Orllewin yr Unol
Daleithiau, ac fe’i cynhaliwyd unwaith y flwyddyn ers canrifoedd bellach.
Ynddi, mae rhai aelodau’r gymuned yn mabwysiadu cymeriadau teulu o angenfilod.
Mewn gwisgoedd erchyll crwydrant y pentrefi yng ngolau dydd, gan harthio’n hyll
ar y trigolion. Maent yn ddiog, yn farus ac yn nwydus, ac yn mynd o dŷ i dŷ yn
y gobaith o fargeinio am blant drwg i’w bwyta. Mae’r angenfilod yn deall fod y
rhieni’n gwarchod eu plant yn ofalus, ond fod rhai o’r plant yn camfihafio. Gobaith
yr angenfilod yw y gallant argyhoeddi’r rhieni i roi eu plant drwg yn fwyd
iddynt.
Mae’r rhieni wedi rhybuddio’r plant o flaen llaw fod yr
angenfilod am ymweld â’r pentrefi, a’u bod yn newynog am gig y plant. O
ganlyniad, mae’r plant yn gwneud pob ymdrech i fihafio fel na fydd eu teuluoedd
yn eu haberthu i’r angenfilod. Yn ôl Kealiinohomoku, a fynychodd un o’r
perfformiadau blynyddol hyn gyda’i phlentyn pedair blwydd oed, roedd y plant
ifanc i gyd yn credu pob gair o hyn, felly gellir dychmygu eu hofn a’u braw
wrth weld y teulu erchyll yn crwydro’r pentref yn gofyn am blant i’w bwyta.
Gan ddilyn damcaniaethau Turner, mae Kealiinohomoku yn
dehongli’r ddrama ddefodol hon fel ymgais ar ran yr Hopi i iachau eu plant o’u
hanaeddfedrwydd. Hawdd iawn fyddai camddehongli’r digwyddiad fel ymdrech syml
ar ran y gymuned i fygwth y plant rhag camfihafio. Ond wrth ystyried mai agwedd
ganolog ar draddodiad iachaol yr Hopi yw’r hen arfer o drin tebyg gyda’i debyg,
gwelir esboniad amgenach ar y ddrama. Drwy bersonoli ymddygiad anwaraidd ac
anaeddfed yn yr angenfilod eithafol, ceisia’r Hopi iachau eu plant o’r union
dueddiadau gwrthgymdeithasol.
Gweler y modd mae’r ddefod gyhoeddus hon yn ymateb cymunedol i’r
anghytgord y gall plant a phobl ifanc beri o fewn cymuned.
Ond beth a wnelai hyn â’r Gogynfeirdd? Yn gyntaf rhaid
gofyn pa agweddau o fewn i’r elit milwrol Cymreig oedd yn peri niwed i’r
strwythur cymdeithasol, ac ym mha fodd yr oedd y canu mawl, er enghraifft, yn
ymateb defodol i hynny? Efallai bod un awgrym i’w chael yn awdl mawl Prydydd y
Moch i Dafydd ab Owain. Ar ddiwedd yr awdl, datgana’r Prydydd (fy italeiddio
i):
Tau i’th lys lestri euriniawl,
Tau fy ngherdd angerdd engiriawl,
Mau dud iôr, a’th gôr a’th
ganmawl,
Boed tau, ben rhïau, bodd nefawl - Ddofydd,
Balch
Ddafydd, dda fydawl:
Boed agored pyrth Pedr a Phawl
I’th erbyn, arbennig dyniawl; . . .
Portreedir
Dafydd nid yn unig fel arweinydd llwyddiannus a chyfoethog, ond hefyd fel milwr
ffyrnig sy’n cael ei ffafrio gan Dduw.
Ond, yn bwysicach, datgenir fod Dafydd yn falch. Ar sail
y dyfyniad uchod a nifer o enghreifftiau tebyg yng nghanu’r Gogynfeirdd, hawdd
fyddai casglu mai balchder y noddwr delfrydol yw un o brif themâu’r genre mawl.
Os derbynnir felly fod cyfleu ac ysgogi balchder yn agwedd ganolog ar y ddefod
gyhoeddus hon, a bod hynny, yn ôl Turner, yn arwydd o ymgais cymunedol i ymateb
i ryw fath o anghytgord, a oes yma ymgais i ffrwyno neu reoli ochr negyddol
balchder, sef traha? Mae’n amlwg fod balchder yn ategu dewrder rhyfelwr, ac
mewn dull ymarferol iawn byddai hynny felly o fudd i’w gymuned. Ond peryg
fyddai gadael i’r balchder hwnnw droi yn draha, oherwydd yn yr emosiwn penboeth
hwnnw gall rhyfelwr grymus niweidio’i gymuned.
Yn gyson yng ngwaith Prydydd y Moch, cyfosoda
arwriaeth ryfelgar ei noddwr gyda’i allu i warchod ei gymuned. Pwysleisir
agwedd gadarnhaol ffyrnigrwydd milwrol. Y safonau delfrydol hyn sy’n gonglfeini
clir iawn i ddelwedd y noddwr perffaith. Mae’n debyg cyflwynir y ddelfryd hon
mewn ymgais i ysbrydoli’r gŵr amherffaith yntau i geisio byw yn ôl ei ddelwedd
gyhoeddus ei hun. Yn gynnar iawn yn ei hanes, a ddatblygodd y gyfundrefn
farddol ymateb defodol i draha dinistriol eu rhyfelwyr? A yw’r ddefod o fawl yn
ymgais ffurfiol i ategu agweddau cadarnhaol yr un emosiwn sylfaenol, sef
balchder?
Lle
defnyddia’r Hopi eu dramâu cyhoeddus i herio nodweddion negyddol eu plant, mae’n
bosibl i’r Gogynfeirdd ddefnyddio’u hawdlau mawl fel dull o ategu nodweddion
cadarnhaol eu noddwyr, ac o ganlyniad, ceisio ffrwyno unrhyw ymddygiad
niweidiol. A oedd y beirdd Cymraeg yn ceisio dilyn yr un hen arferiad o drin
tebyg gyda’i debyg? Fel traddodiad iachau'r Hopi, bu trin tebyg gyda’i debyg yn
hen ddull clasurol o iachau yn nhraddodiad meddyginiaethol Ewrop hefyd, felly
mae’n debyg iawn nad oedd yn gysyniad estron i draddodiad deallusol Cymru’r
oesoedd canol. Gweler felly’r modd y gellir dehongli gweithgareddau’r beirdd
llys fel ymdrechion i ategu iechyd cyffredinol eu cymunedau. Teg felly fyddai
casglu yr ystyrid barddoniaeth yn fwy na diddanwch yng nghyfnod y
Gogynfeirdd.
No comments:
Post a Comment