Thursday, 21 June 2012

Ddoe, Heddiw ac Yfory (Taliesin, Gwanwyn 2012)


Mae cloc Machynlleth yn sefyll ers dros ganrif bellach. Yn swyddogol, fe’i codwyd i ddathlu bywyd rhyw fonheddwr neu’i gilydd – mab i’r marcwis lleol os ydi’r hanesion yn gywir. Ond mae’n debyg bod nifer o drefi wedi adeiladu clociau o’r fath – nid yn unig allan o deyrngarwch i barchusrwydd, ond hefyd fel arwydd o’u diwydrwydd a’u ffyddlondeb i’r achos diwydiannol. Tan yn gymharol ddiweddar, heb glociau ni allai’r trenau redeg ar amser, ni allai’r post gynnal cysylltiadau byw cymdeithas, ac ni allai’r rheolwyr gadw trefn ar y gweithle. Yn ei ddydd, roedd cloc Machynlleth yn amddiffynnydd y gweithiwr cydwybodol, a chyhuddwr y diog a’r hwyr. Fel rhyw geidwad llonydd, cloc y dref oedd ceidwad y drefn, a’i sicrwydd mecanyddol yn gefn i holl weithgaredd diwydiant modern.

Dyrchafwyd Amser i’r statws duwiol hwn yn rhannol o ganlyniad i ddamcaniaethau Isaac Newton. Tua dau gan mlynedd cyn codi cloc Machynlleth, disgrifiodd Newton Amser fel rhywbeth sy’n bodoli’n hollol annibynnol i’r byd materol, rhyw rym trosgynnol sy’n llifo’n barhaol o un pen tragwyddoldeb i’r llall, heb ddim yn y cread yn gallu ymyrryd ag o; fod Amser yn hollol gyson, ei symudiad parhaus i’w weld yn y cloc enfawr yn y nen, yn nhroi’r planedau a’r sêr. Credai fod cysondeb y nefoedd yn dystiolaeth fod y bydysawd yn rhedeg yn ôl egwyddorion sefydlog; ac nid yn unig egwyddorion mecanyddol disgyrchiant ac amser, ond egwyddorion moesol yr un mor absoliwt. Fel adlewyrchiad o’i amgylchfyd, credai’r deallusion fod dyn yn byw yn ôl egwyddorion a oedd yr un mor sefydlog â pheirianwaith ysblennydd y bydysawd uwch ei ben: fod hawliau cynhenid pob dinesydd mor ddiamod â’r haul yn gwawrio.

Mae rhai o brif ddamcaniaethau’r Oleuedigaeth yn rhan o’r un ffrwd empiraidd, gydag athronwyr fel John Locke yn ceisio rhoi trefn ar ideoleg y gymdeithas berffaith, gan egluro hawliau eiddo’r llafurwr a sut i gynrychioli hynny’n wleidyddol. Onid y syniadau hyn wnaeth ddwyn ffrwyth yn Natganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn 1776, lle y datganwyd hawliau tragwyddol dyn? Roedd hynny lawn mor gyfrannog o gysondeb absoliwt y cread ag yr oedd disgrifiad Newton o Amser.

O bersbectif hanes swyddogol, o leiaf, mae’n ymddangos fel petai cynnydd, hawliau dyn a’i ryddid yn faterion o bwys i’r Founding Fathers – a’r rhain i gyd mor sefydlog a chyson â thician cloc. Gellir ymdeimlo â gobaith eiddgar deallusion y Gorllewin ar drothwy’r ddeunawfed ganrif, gyda chysondeb di-baid amser yn eu tywys tuag at ddyfodol hardd a pherffaith.

Mewn un ystyr, roedd cloc Machynlleth yn arwydd o’r un uchelgais, yr un gobaith fod gwareiddiad modern yn gweithio tuag at gymdeithas ddelfrydol y dyfodol. Drwy ei ddiwydrwydd gallai dinesydd sicrhau moethau’r bywyd gwâr i’w deulu, a gyda chymorth addysg a than warchodaeth y gyfraith roedd gobaith y byddai pethau ychydig yn well i’w blant. Yr un ddelfryd ddigwestiwn oedd un o gonglfeini diwylliant ein neiniau a’n teidiau, ac mae ei dylanwad yn parhau hyd heddiw. Mae rhai wedi honni’n gymharol ddiweddar ein bod ni’n byw ar drothwy gwireddu cynllun yr Oleuedigaeth, lle daw hanes i ben gyda llwyddiant un ideoleg drosgynnol, berffaith.(1)

Ond fel y gwyddom, dydi pethau byth mor daclus â hynny yn y byd go-iawn. Llai na hanner canrif ar ôl codi cloc Machynlleth roedd rhai o ddamcaniaethau pwysicaf Newton wedi eu dymchwel, a gwyrdrowyd y canfyddiad traddodiadol o Amser. Lle’r oedd Newton wedi ei argyhoeddi fod Amser rhywsut ar wahân i’r byd materol, gallai Einstein ddangos fod Amser yn rhan lawn mor annatod o’r byd â choes brwsh. Yn sgil ei waith ef a’i gyfoeswyr, roedd Amser o hynny allan yn rhan o ofod – y bydysawd corfforol – ac o ganlyniad, yn gorfod dioddef yr un anfri ym mhawennau budur disgyrchiant. Y gwir oedd bod Amser yr un mor debyg o ddiflannu lawr llwnc black hole â phlaned neu hosan, a’r un mor amharod â mwnci
i gyfri’n gyson. Erbyn hyn mae gwyddonwyr wedi profi fod Amser yn arafu neu gyflymu o ganlyniad i wahaniaethau mewn disgyrchiant, ac yn y byd is-atomig mae amser ‘normal’ wedi diflannu’n llwyr. 

Ers cychwyn yr ugeinfed ganrif, mae gwyddonwyr cwantwm wedi bod yn ymbalfalu ym mherfeddion atomau i geisio dod o hyd i gyfrinachau gofod ac Amser, a darganfuwyd pethau rhyfedd iawn. Er enghraifft, wrth ddal dau ronyn is-atomig yn gyfagos a gadael iddyn nhw ymyrryd yn ei gilydd, mae’n amhosib rhagweld beth fydd yn digwydd. Mae’n bosib rhagweld beth fydd canlyniad dwy bêl biliard yn taro’i gilydd, ond nid felly gyda gronynnau is-atomig. Yn y sefyllfa hon maen nhw’n dod i fodoli mewn superposition o bob posibilrwydd, lle mae pob dim fyddai’n gallu digwydd yn digwydd ar yr un amser. Dim ond drwy wneud mesuriadau o’r gronynnau wedi’r  
digwyddiad maen nhw’n disgyn i un stad neu’r llall, fel petai’r mesur ynddo’i hun yn ddigon i’w hoelio i un posibilrwydd ac un lleoliad. Mae’r ffaith fod gronyn yn gallu gwneud mwy nag un peth ar yr un pryd yn gwneud y presennol, ac o ganlyniad Amser yn gyffredinol, yn beth aneglur iawn. Yn ei daith o amgylch niwclews atom,
mae gronyn hefyd yn gallu diflannu’n llwyr ac ailymddangos mewn cylchdro hollol wahanol, a hynny mewn amrantiad. Ymddengys ei fod yn meddu ar y gallu hudol i deleportio, i deithio y tu hwnt i Amser.

O ganlyniad, mae rhai ffisegwyr cyfoes fel Julian Barbour yn honni fod Amser yn hollol ddychmygus.(2) Mae nifer o ymchwilwyr yn credu mai’r gwaith ar ddisgyrchiant cwantwm yw’r gobaith gorau o gysoni’r hyn sy’n digwydd yn y byd mwy (a ddisgrifir gan ddamcaniaeth perthnasedd) a’r hyn sy’n digwydd yn y byd is-atomig (a ddisgrifir gan ddamcaniaeth gwantwm), ond drwy fanylu ar hafaliadau’r ymchwil mae Barbour wedi dod i’r casgliad fod Amser yn hollol rithiol, nad yw’n ystyriaeth wrth geisio disgrifio’r byd is-atomig. Mewn geiriau eraill, nid yw amser yn bodoli yn nhermau disgyrchiant cwantwm – sef damcaniaeth fydd o
bosib yn datrys rhai o gyfrinachau dwysaf y bydysawd. Os ydi Barbour yn gywir, yn sydyn mae un o gysyniadau canolog ein realiti yn diflannu wrth geisio’i ddisgrifio ar lefel sylfaenol iawn. Byddai hynny’n golygu nad yw ein profiadau o Amser yn ddim ond casgliad ar hap o eiliadau digyswllt, ac mai’r unig synnwyr neu berthnasedd sydd iddynt ydi’r hyn yr ydym ninnau fel sylwebyddion yn eu tadogi arnynt. Ai ni, drwy’n hymdrech feunyddiol, sy’n ceisio rhoi trefn ar eiliadau digyswllt y realiti rhyfedd hwn? Ydi’n canfyddiad fod Amser yn llifo heibio yn ddim mwy na’n hymwybyddiaeth yn llifo drwy gyfres o syniadau? Os felly, mae
Amser yn stori a ddefnyddir i drefnu’n profiadau: naratif fewnol sy’n ymbalfalu drwy eiliadau direswm profiad, a hynny mewn ymgais i greu cyd-destun ystyrlon lle gellir lleoli ac ailddarganfod yr hunan – yr un hunan – dro ar ôl tro.

Ac os ydi’r rhagdybiaeth Newtonaidd o amser absoliwt, erbyn hyn yn ddim ond rhwydwaith o eiliadau perthynol, a fydd ein hawliau tragwyddol yn debygol o fod yr un mor ansefydlog? Ydyn nhw’n parhau i fod mor ddiamod â’r haul yn gwawrio, neu ydi holl fenter ddemocrataidd yr Oleuedigaeth yn ddim mwy na rhith? Oes unrhyw sicrwydd bellach y byddai’n disgynyddion yn etifeddu oes aur o ddigonedd a rhyddid? Heb y cloc duwiol i gadw trefn ar y byd does dim cysondeb y tu hwnt i drefniadau mympwyol y meddwl.

Ar ben hynny, dyma’r union eiliad pan mae’r byd yng ngafael ansicrwydd enbyd. Nid argyfwng ariannol mohono bellach, ond argyfwng gwleidyddol. Does dim amheuaeth erbyn hyn na wnaeth y banciau ddwyn biliynau o bunnoedd gan drethdalwyr, a hynny gyda chefnogaeth hapus ein llywodraethau. Yn waeth fyth, mae’n amlwg na wnaeth y bailout cyntaf yn 2008 achub y sefyllfa, gan fod y cyrff ariannol mawr yn dal i edrych dros y dibyn, gan barhau i dalu biliynau mewn bonuses ar yr un pryd. Does dim llawer wedi newid ers 2008. Ym mis Tachwedd 2011, roedd hyd yn oed y Federal Reserve yn cynnig benthyciad i gadw’r Ewro rhag suddo o dan bwysau dyledion enfawr banciau’r cyfandir. Mae’n debyg fod y Fed yn cydnabod y byddai gwaethygiad yn y sefyllfa yn Ewrop yn creu problemau i bawb arall hefyd. Mae’n eironig fod hyn i gyd o ganlyniad i’r argyfwng ariannol a ddechreuodd dan arolygiaeth y Fed (neu ei ddiffyg) nôl yn 2007. Wrth gwrs, arian cyhoeddus sy’n cael ei ddefnyddio i ategu’r system fancio breifat hon; system ddiffygiol, ddiegwyddor a direol.(3)

Yr hyn sy’n ddiddorol yw’r ffaith nad yw poblogaethau Ewrop, gan gynnwys Iwerddon, Portiwgal, yr Eidal, Sbaen a Groeg, yn barod i dalu am gamgymeriadau’r sector ariannol. Ym mis Rhagfyr 2011, datganodd cyn-brif weinidog Groeg, George Papandreou, nad yw cyfartaledd ddemocrataidd yn bosib pan yw’r system ddemocrataidd ei hun dan ofal sefydliadau cenedlaethol, a’r grymoedd ariannol yn cael rhwydd hynt i weithredu’n rhyngwladol y tu hwnt i afael gwleidyddol gwladwriaethau unigol. Datganodd yn ddi-flewyn-ar-dafod: ‘Our democratic institutions can be captive to special interests.’(4) Mae’n debyg ei
fod yn siarad o brofiad.

Mae’r pwysau i wneud toriadau niweidiol yng ngwariant cyhoeddus sawl gwlad wedi pryfocio gwrthwynebiad dicllon y bobol gyffredin. Gellir gweld arwyddion o wrthryfel rhyngwladol yn erbyn y toriadau, gyda phobol yn gwrthod talu am argyfwng nad achoswyd ganddyn nhw, nac am argyfwng a gafodd ei ddatrys yn y byr dymor gan raglen o doriadau sy’n anwybyddu anghenion pobol gyffredin er mwyn gwarchod cyfoeth busnesau rhyngwladol. Mae anghyfiawnder hynny wedi achosi ymgyrch ar lawr gwlad na welwyd ei debyg ers dros hanner canrif, gydag ymgyrchwyr Occupy yn parhau i feddiannu miloedd o leoliadau cyhoeddus.(5) Ym mis Tachwedd 2011, cafwyd y streic fwyaf ym Mhrydain ers yr 1920au.  Mae’n amlwg fod y bobol gyffredin yn gweld yr angen i fynnu cydraddoldeb
democrataidd, a thegwch yn y modd y mae nwyddau a chyfalaf yn cael eu rhannu a’u defnyddio. Yr un mor amlwg yw’r ffaith bod gobaith ymysg rhai carfannau ym  mhoblogaethau’r byd fod pethau’n gallu gwella. Heb obaith, byddai pawb wedi aros gartref i ddisgwyl y gwaethaf. Yn sicr, mae’r ymgyrchwyr presennol yn ymwybodol o’u hawliau ac yn benderfynol o’u hamddiffyn. Mae methiant llywodraethau i reoli’r gyfundrefn ariannol er lles eu poblogaethau wedi achosi difrod i fywydau miliynau o deuluoedd ledled y byd, gan barhau i beryglu’r presennol a’r dyfodol. Mae’r hawl i ran o gyfoeth y byd yn rhywbeth y mae pawb ohonom yn y Gorllewin yn ei gymryd yn ganiataol erbyn hyn. Mae ideoleg John Locke a’i gyfeillion yn cael ei hystyried yn yn enedigaeth-fraint i ddinasyddion y Byd Cyntaf, hyd yn oed os ydi amser absoliwt wedi diflannu yn hafaliadau rhyw wyddonydd.

Ydi hawliau’n gallu bod yn berthnasol nawr, yn y presennol, heb orfod bod yn ddelfrydau absoliwt o berffeithrwydd yn y lle cyntaf? Onid drwy fod yn weithredol yn ein bywydau beunyddiol y mae hawliau’n golygu unrhyw beth? Mae cwestiynau yngl ˆyn â hawliau wedi bod yn bwysig i’r bobol gyffredin erioed, a heb ymgyrchoedd llawr gwlad i’w hennill a’u hamddiffyn, buan iawn y mae hawliau o’r fath yn cael eu gochel gan y rhai sydd mewn grym. Gellir dadlau bod y tueddiad i ffurfioli hawliau o’r top i lawr wedi bod yn fethiant;(6) fel arfer nid oes llawer o awydd gan wladwriaethau i warchod yr hawliau hynny. Er bod Datganiad
Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn dweud yn weddol hyderus, ‘crëwyd pob dyn yn gyfartal’, nid ystyrid pobol groenddu’n ddinasyddion cydradd tan bron i ddau gan mlynedd ar ôl ysgrifennu’r Datganiad. Ac wrth edrych ar ymddygiad Obama a’i weinyddiaeth yn y T ˆy Gwyn heddiw, nid oes unrhyw arwydd fod y wladwriaeth rymus honno wedi coleddu mwy na rhyddfrydiaeth ymddangosiadol ac arwynebol. Mae fel petai’n 
benderfynol o droi pob heddwas yn filwr arfog,(7) ac ymhlyg yn hynny y mae’r rhagdybiaeth fod y cyhoedd yn rhywbeth y dylid bod yn wyliadwrus ohono – anifail sydd angen ei ddarostwng a’i rwymo. Ond yn waeth na hynny, ar ddiwrnod olaf 2011, caniataodd Obama i’r senedd basio deddf sy’n peryglu hawliau dynol pob un ohonom – bellach, mae gan wasanaeth milwrol America’r hawl gyfreithiol i gaethiwo unrhyw un yn y byd am unrhyw gyfnod heb achos llys.(8) Ai’r llywydd hwn oedd gobaith mawr America? Neu ai breuddwyd oedd hynny?

Ond ta waeth, roedd rhywbeth calonogol iawn mewn gweld cymaint o ymgyrchwyr Occupy yn barod i sefyll dros ein hawliau, yn enwedig wrth ystyried bod grym democrataidd mwyaf y blaned yn brasgamu’n hyderus tuag at reolaeth filwrol. Efallai nad yw’r wladwriaeth genedlaethol yn ei ffurf bresennol yn gallu darparu cyfiawnder i bawb; dyma pam mae nifer yn troi allan i’r strydoedd mewn ymgais i newid pethau unwaith ac am byth. Ers dros ddau gan mlynedd mae cenhedloedd democrataidd y Gorllewin wedi hyrwyddo’r syniad o gynnydd, ond yn lle esgor ar baradwys ryddfrydol yr Oleuedigaeth, ganwyd rhyw anghenfil o’r enw military-industrial complex.(9) Ac mae’r wladwriaeth Brydeinig yr un mor gyfrifol â neb am hynny. Heb fewnbwn cyson y bobol gyffredin mae’n debyg y bydd unrhyw gyfundrefn wleidyddol yn methu â diogelu hawliau beunyddiol ei phoblogaeth, ac yn sicr o dramgwyddo hawliau poblogaethau estron, mewnol ac allanol.
Am gyfnod cynhyrfus yn ein hanes! Rwsia yn troi yn erbyn cyfundrefn unbennaeth Putin; bron i bob gwlad Arabaidd yng ngafael chwyldro enfawr; gwrthdaro cyson a newyn yn parhau yn Affrica; Israel ac America ar drothwy rhyfel gydag Iran; a Japan ar ei gliniau, ei thir wedi ei wenwyno am filoedd o flynyddoedd i ddod. Pa ffordd y bydd y geiniog yn disgyn? Ar yr un pryd ag y mae cynllun rhyddfrydol y Gorllewin yn disgyn ar ei din, mae ffisegwyr yn awgrymu fod amser ei hun wedi diflannu. Yn ôl y gymuned wyddonol, rydym yn byw ar drothwy datrys rhai o broblemau dwysaf y bydysawd, ac nid yw rhai o ddamcaniaethau
mwyaf Einstein, hyd yn oed, bellach yn dal d ˆwr.(10)

Tra mae poblogaethau bach a mawr ar bron bob cyfandir yn ymladd dros eu hawliau, mae’n
amlwg fod angen i’r gyfundrefn wleidyddol ryngwladol wneud llawer iawn mwy i gynrychioli
dyheadau’r bobol gyffredin. A fydd yr ymgyrchwyr yn gallu ysgwyd y sylfeini ddigon i beri 
newid sylweddol yn yr hen drefn? Mae un ffactor arall heb ei ystyried yn hyn oll, sef 
rhagolygon carfan arall o wyddonwyr. Erbyn hyn mae consensws eang ymysg arbenigwyr 
perthnasol fod newid hinsawdd yn ganlyniad uniongyrchol i weithgaredd dyn. Nôl yn 2007, 
datganodd yr IPCC (Y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd) y bydd y môr yn debyg o 
godi tua hanner metr dros y ganrif nesaf.(11) Yn 2010, roedd yr un arbenigwyr wedi newid 
eu rhagolygon i godiad o un fetr dros y ganrif nesaf.(12) Yn 2011, cyhoeddodd un o brif 
wyddonwyr NASA bapur oedd yn awgrymu fod y rhagolygon blaenorol i gyd wedi bod yn 
llawer rhy geidwadol. Yn ei farn ef a’i gyd-ymchwilwyr, os na newidiwn ni’n ffyrdd a gostwng 
ein gollyngiadau carbon, bydd y môr yn debyg o godi o leiaf bum metr dros y ganrif nesaf.
(13) Byddai codiad o un fetr yn ddigon i achosi argyfwng enfawr ledled y byd, gyda difrod 
stormydd o’r môr yn cyrraedd ymhellach i mewn i’r tir. Byddai nifer o ynysoedd isel yn 
diflannu’n gyfan gwbl, gyda nifer mawr o bobol yn gorfod ail-leoli. Byddai codiadau mwy yn 
sicr o fod yn beryglus iawn i wledydd fel Bangladesh. Mae’r India newydd gwblhau wal 
‘ddiogelwch’ enfawr o amgylch Bangladesh (gwariwyd tua $1.6 biliwn ar y cynllun) i gadw 
allan y miliynau a fyddai’n ffoi dros y ffin petai’r môr yn meddiannu eu tiroedd.(14) 


Os ydi’r ymchwil ddiweddaraf yn gywir, bydd y môr wedi croesi rhiniog T ˆy’r Cyffredin mewn can mlynedd.(15) Bydd Peterborough a Chaergrawnt yn drefi glan môr, a Phorthmadog a’r Borth wedi ymuno â Chantre’r Gwaelod. ’Fydd neb yn eistedd ar wal yr Anglesey yng 
Nghaernarfon, a Chasnewydd bellach yn edrych allan dros gors. Erbyn hynny, bydd y môr 
wedi cyrraedd traed cloc Machynlleth, a phwy a ˆwyr ym mha stad y bydd yr economi 
ryngwladol ar ôl gorfod wynebu argyfwng mor enbyd. Ym mis Tachwedd 2011, bu’r gynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd yn Durban yn fethiant llwyr ar ran gwleidyddion, gydag America a Chanada yn tanseilio unrhyw obaith o gyrraedd cytundeb ystyrlon ar ostwng gollyngiadau carbon. Ond daeth cannoedd o filoedd allan ar y strydoedd i brotestio, i sefyll dros hawl dynoliaeth i ddyfodol. Os ydi hynny’n arwydd o unrhyw beth, y bobol gyffredin fydd yn diogelu’r dyfodol dros y degawdau nesaf, ac mae hynny’n hwb i’r galon. Amser a ddengys a fydd digon ohonom yn barod i fentro i’r strydoedd. 


nodiadau:

1 Francis Fukuyama, The End of History and the Last Man (New York: Free Press, 1992).

2 Julian Barbour, The End of Time: The Next Revolution in Our Understanding of the Universe (London: Weidenfelde Nicholson, 1999).

3 Gweler y ffilm ddogfen Inside Job gan Charles Fergusson (2010).

4 www.democracynow.org/2011/12/9/exclusive_ex_greek_pm_george_papandreou (30/01/12).

5 Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon (Ionawr, 2012) mae 2771 o leoliadau Occupy ledled y byd, gydag o leiaf 21,957 o brotestwyr parhaol. Ers cychwyn yr ymgyrch mae cannoedd ar filoedd o bobol wedi cymryd rhan mewn protestiadau. Dyma bumed mis yr ymgyrch. Ffynhonnell: www.meetup.com/occupytogether/

6 www.globalcomplexity.org/Democracy.htm (30/01/12).

7 www.democracynow.org/2011/12/27/the_war_at_home_militarized_local (30/01/12).

8 www.democracynow.org/2011/12/19/obama_prepares_to_authorize_indefinite_detention (30/01/12).

9 Daw’r term o araith olaf Eisenhower fel llywydd yr Unol Daleithiau, fis Ionawr, 1961: ‘In the councils of government, we must guard against the acquisition of unwarranted influence, whether sought or unsought, by the military-industrial complex. The potential for the disastrous rise of misplaced power exists and will persist.’

10 www.huffingtonpost.com/2011/09/22/cern-light-speed_n_977014.html (30/01/12).

11www.ipcc.ch/publications_and_data/publications_ipcc_fourth_assessment_report_synthesis_report.htm (30/01/12).

12 www.ipcc.ch/pdf/supporting-material/SLW_WorkshopReport_kuala_lumpur.pdf (30/01/12).

13 www.columbia.edu/~jeh1/mailings/2011/20110118_MilankovicPaper.pdf (30/01/12).

14 www.foreignpolicy.com/articles/2011/06/20/fortress_india (30/01/12); hefyd gweler: http://bangladeshwatchdog.blogspot.com/2011/06/fortress-india-why-is-delhibuilding.html (30/01/12).

15 flood.firetree.net (30/01/12).

No comments:

Post a Comment